Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 1 Chwefror 2021
Amser:
14.00 -
16.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11094
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
David Rees AS (Cadeirydd) Huw Irranca-Davies AS Dai Lloyd AS Nick Ramsay AS David J Rowlands AS |
Tystion: |
Emily Miles, Asiantaeth Safonau Bwyd Nathan Barnhouse, Asiantaeth Safonau Bwyd Yr Athro Nicola McEwan, Prifysgol Caeredin Akash Paun, Sefydliad y Llywodraeth Professor Dan Wincott, Prifysgol Caerdydd |
Staff y Pwyllgor: |
Alun Davidson (Clerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) Nia Moss (Ymchwilydd) Rhun Davies (Ymchwilydd) Lucy Valsamidis (Ymchwilydd) Sara Moran (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AS.
1.3 Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.
2 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 3 ac eitemau 6 i 9
2.1 Derbyniwyd y cynnig.
3 Fframwaith cyffredin dros dro ar hylendid a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid - briffio technegol
3.1 Cafodd yr Aelodau bapur briffio technegol ar y fframwaith cyffredin dros dro ar hylendid a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid.
4 Cymru yn y Deyrnas Unedig – trafodaeth bord gron gydag academyddion
4.1 Bu’r panel yn ateb cwestiynau gan yr Aelodau.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Papur i’w nodi 1: Papur briffio Cyngor ar Bopeth Cymru: newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit
5.1.1 Nodwyd y papur.
5.2 Papur i’w nodi 2: Gohebiaeth gan Lywydd Pwyllgor y Rhanbarthau Ewropeaidd a Llywydd Grŵp Cyswllt Pwyllgor y Rhanbarthau y DU â Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd ynghylch y Cytundeb Masnach a Chydweithrediad.
5.2.1 Nodwyd y papur.
6 Cymru yn y Deyrnas Unedig – trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Cytundebau rhyngwladol
7.1 Ystyriodd yr Aelodau y cytundeb ar fasnachu nwyddau rhwng Gwlad yr Iâ, Norwy a'r DU.
7.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn ynglŷn â’r cytundeb.
8 Trafod y dogfennau cryno ar y Fframweithiau Cyffredin a ddaeth i law
8.1 Trafododd yr Aelodau y dogfennau a ddaeth i law, a’u nodi.
9 Y berthynas â'r UE yn y dyfodol
9.1 Bu'r Aelodau yn trafod, a chytunwyd ar eu dull gweithredu o ran y berthynas â’r UE yn y dyfodol.